Trywydd yn rhan o fwrlwm yr Egin

Ddydd Llun, 1 Hydref 2018, symudodd cwmni Trywydd i’w brif swyddfa newydd yng Nghanolfan S4C Yr Egin, a hynny wrth iddo ddatblygu ac ehangu ei ddarpariaeth fel un o gwmnïau mwyaf blaenllaw Cymru ym maes gwasanaethau iaith proffesiynol.

Mae’r cwmni wedi dyblu o ran maint dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae bellach yn darparu gwasanaethau cyfieithu testun, golygu a phrawfddarllen, cyfieithu ar y pryd, llogi offer a chynllunio iaith i ystod eang o gwsmeriaid ledled Cymru. Mae gan y cwmni dîm o staff medrus sy’n gweithio yn ei swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Aberystwyth, Llandeilo a Rhydaman, yn ogystal â rhwydwaith o weithwyr ymgynghorol a chyfieithwyr proffesiynol, dethol, ar hyd a lled Cymru.

Dywedodd Owain Gruffydd, Prif Weithredwr Trywydd, “Mae cwmni Trywydd yn falch iawn o gael lleoli ei brif swyddfa yng Nghanolfan S4C Yr Egin, ac mae’n rhannu’r un weledigaeth o gyfrannu’n gadarnhaol at ddatblygiad economi’r ardal a chynnig cyfleoedd swyddi da yng ngorllewin Cymru. Mae’r lleoliad yn cynnig gofod swyddfa pwrpasol a chyfoes, ynghyd â chyfleoedd gwych i rwydweithio a meithrin cysylltiadau newydd mewn sector sy’n hollbwysig o ran dyfodol a thwf y Gymraeg.”

Ychwanegodd, “Rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu ein gwasanaethau presennol, yn ogystal â rhai newydd, dros y blynyddoedd i ddod, a hynny o’n prif swyddfa yng Nghaerfyrddin, yn ogystal â’n swyddfeydd eraill yn Aberystwyth, Llandeilo a Rhydaman.”

Dywedodd Carys Ifan, Cyfarwyddwr Canolfan S4C Yr Egin, “Mae’n bleser gennym groesawu Trywydd yn un o denantiaid Yr Egin. Mae’n gyfnod eithriadol o gyffrous i ni yma yn y ganolfan, ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio â’r cwmni yn y dyfodol.”

Bydd cyfle i ymweld â swyddfa Trywydd a chael sgwrs â’r Rheolwyr a’r staff yn ystod lansiad swyddogol Yr Egin, nos Iau 25 Hydref.
Am ragor o wybodaeth, ffoniwch 01267 246866 neu anfonwch neges e-bost i post@trywydd.cymru.

Leave a Comment