Prawfddarllen

Mae Trywydd yn cynnig gwasanaeth golygu a phrawfddarllen cynhwysfawr ar gyfer gwaith trydydd parti.

Os oes gennych ddeunydd ysgrifenedig Cymraeg neu Saesneg y mae angen ei olygu, neu os oes arnoch angen prawfddarllen cyhoeddiad neu bamffled cyn iddo gael ei argraffu, gall Trywydd roi help llaw. Byddwn yn edrych ar eich gwaith o’r newydd, gan ddefnyddio ein sgiliau ysgrifennu arbenigol i helpu i wella arddull, strwythur ac iaith eich dogfen, er mwyn sicrhau eich bod yn cyfathrebu’n effeithiol â’ch cynulleidfa darged.


Dyma’r cam olaf cyn anfon eich dogfen neu gyhoeddiad at yr argraffwyr. Gadewch y cyfan i ni – anfonwch eich gwaith atom fel y mae wedi’i gysodi gan y dylunydd, a byddwn yn chwilio am unrhyw wallau argraffyddol.


Byddwn yn cywiro pob gwall argraffyddol, gan gynnwys y math o gamgymeriadau y mae pecynnau meddalwedd cyfrifiadurol yn eu diystyru, ac yn sicrhau bod eich dogfen yn llifo’n naturiol.

Gallwn hefyd:

  • Sicrhau bod sillafu, atalnodi a gramadeg eich dogfen yn berffaith drwyddi draw
  • Gwella’r eirfa, y cysondeb a’r arddull i sicrhau bod eich neges yn glir
  • Addasu’r iaith a’r fformat i’w gwneud yn fwy addas i gyfrwng arbennig, er enghraifft cyhoeddiad neu gylchlythyr cymunedol
  • Olrhain y newidiadau (track changes) er mwyn eu rhestru ar ymyl y dudalen, er mwyn i chi allu gweld pob newid a wnaed.

Cysylltwch â ni i weld pa gymorth sydd fwyaf addas i chi.

Ffoniwch (01558) 263 133
neu anfonwch neges e-bost i post@trywydd.cymru