Cyfieithu
Mae Trywydd yn cynnig gwasanaeth cyfieithu testun cynhwysfawr o’r Saesneg i’r Gymraeg ac o’r Gymraeg i’r Saesneg.
Mae Trywydd yn defnyddio’r feddalwedd cof cyfieithu soffistigedig Déjà Vu X3 ar gyfer ein holl waith cyfieithu. Mae’r offeryn pwerus hwn yn ategu sgiliau ein cyfieithwyr, yn sicrhau cysondeb o ran terminoleg, ac yn galluogi nifer o gyfieithwyr i ddefnyddio’r un cof cyfieithu ar yr un pryd. Wrth ddefnyddio’r feddalwedd hon, mae rhestrau geirfa, geiriaduron, corpws a data amlieithog yn cael eu storio, eu rhannu, a’u cyfoethogi.
Mae ein gweithdrefnau sicrhau ansawdd yn gofalu bod pob darn o waith yn cael ei olygu a’i brawfddarllen gan uwch-gyfieithydd, gan sicrhau’r ansawdd a’r cysondeb gorau posibl. Trwy ein rhwydwaith o gyfieithwyr cymeradwy, gallwn ymgymryd â phrosiectau cyfieithu mawr a gweithio i amserlenni tynn, yn ogystal â dyrannu gwaith o natur arbennig i unigolion penodol.
Mae ein swyddfa ar agor yn ystod oriau gwaith arferol, ond gallwn drefnu i’ch gwaith gael ei gyfieithu dros nos neu ar benwythnosau a gwyliau banc, os oes angen.
Beth am gysylltu â ni?
Ffoniwch (01558) 263 133
neu anfonwch neges e-bost i post@trywydd.cymru