Croeso i Trywydd

Mae cwmni Trywydd yn arbenigo ym maes gwasanaethau iaith proffesiynol. Mae ein prif feysydd gwaith yn cynnwys Cyfieithu a Chynllunio Iaith.

Rydym yn cyflogi timau o gyfieithwyr, cyfieithwyr ar y pryd ac ymgynghorwyr proffesiynol yn ein swyddfeydd yng Nghaerfyrddin a Llandeilo. Trwy ein rhwydwaith o weithwyr llawrydd, rydym yn cynnig ein gwasanaethau iaith cynhwysfawr ar lefel genedlaethol.

Cefndir

Sicrhau Ansawdd

Ffrwyth prosiect Ewropeaidd a gychwynnwyd yn 2002 yw Trywydd. Cyflogodd prosiect ‘Dewis’ gyfieithwyr a chyfieithwyr ar y pryd i weithio gyda chymunedau Sir Gâr er mwyn cynnig gwasanaeth cyfieithu fforddiadwy iddynt. Y nod oedd annog y defnydd o’r Gymraeg ymhlith unigolion, cwmnïau a mudiadau’r sir.

Ar ddiwedd y prosiect yn 2008, ac wedi i’r cyfieithwyr ennill enw rhagorol yn y maes yn lleol, ail-frandiwyd y gwasanaeth a sefydlwyd cwmni Trywydd, a hynny o dan reolaeth Menter Dinefwr. Nod Trywydd oedd datblygu’r gwasanaeth cyfieithu hwn ymhellach a sefydlu gwasanaeth ymgynghori newydd, gan weithio ar lefel broffesiynol ar hyd a lled Cymru.

Mae Trywydd bellach yn gwmni cyfyngedig trwy warant, rhif 6859582. Mae’n ymfalchïo yn y ffaith ei fod yn fenter gymdeithasol – mae holl elw’r cwmni’n cael ei ail-fuddsoddi yn natblygiad Trywydd a’i chwaer-gwmni, Menter Dinefwr.

Owain Siôn Gruffydd yw Prif Weithredwr Trywydd, a Catrin Parry Williams yw’r Rheolwr Gwasanaethau Corfforaethol. Mae gan y cwmni Fwrdd Rheoli etholedig.

Er mwyn sicrhau eich bod yn cael gwasanaeth o’r ansawdd gorau posibl, mae Trywydd yn chwilio am gyfleoedd i wella’n barhaus. Yn gydnabyddiaeth i safon broffesiynol y cwmni, cawsom wahoddiad yn 2011 i ddod yn un o Aelodau Corfforaethol cyntaf Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru. At hynny, mae holl gyfieithwyr a chyfieithwyr ar y pryd Trywydd yn aelodau o’r Gymdeithas hon, a hynny trwy drefn arholi.


Recriwtio Staff

Mae ein tîm yn tyfu’n barhaus, ac rydym bob amser yn chwilio am gyfieithwyr, cyfieithwyr ar y pryd ac ymgynghorwyr proffesiynol newydd i ymuno â ni.

I gael rhagor o wybodaeth am Trywydd, ein gwasanaethau neu gyfleoedd am swyddi, cysylltwch â ni trwy ffonio (01558) 263 133 neu trwy anfon neges e-bost i post@trywydd.cymru

 

Ein swyddfeydd

1


Yr Egin
Heol y Coleg
Caerfyrddin
SA31 3EQ


2


Hengwrt
8 Stryd Caerfyrddin
Llandeilo
SA19 6AE


3


Y Cambria
Rhodfa Newydd
Aberystwyth
SY23 2AZ