Cynllunio
Er 2009, mae Trywydd wedi tyfu i fod yn un o gwmnïau amlycaf Cymru o ran darparu gwasanaethau cynllunio iaith.
Yn rhan o’n gwaith, rydym wedi cael ein cydnabod am ein gallu i reoli prosiectau, cynnal gwaith ymchwil a hyfforddi mewn modd effeithiol. Rydym yn ymfalchïo yn ein gallu i gasglu’r tîm gorau posibl ynghyd, a all gynnwys aelodau o’r staff ac ymgynghorwyr cyswllt, sydd wedyn yn cael eu rheoli a’u cydlynu’n effeithiol gan Trywydd.
Ers ein sefydlu, rydym wedi rheoli nifer o brosiectau proffil uchel, ac mae rhai o’n prif gleientiaid yn cynnwys:
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
Comisiynydd y Gymraeg
Cyngor Gwynedd
Llywodraeth Cymru
ERW
Mae gwasanaeth ymchwil Trywydd yn arbenigo ym meysydd Addysg, Gwaith Ieuenctid a Datblygu Cymunedol ac Economaidd, gan anelu at wella’r Gymraeg yn y meysydd hynny.
Mae gennym unigolion medrus sy’n gallu cymhwyso gwahanol ddulliau ymchwil, yn cynnwys:
Hwyluso Grwpiau Ffocws
Dadansoddi Polisïau
Dylunio a Dadansoddi Holiaduron
Hwyluso Gweithdai
Cynnal Cyfweliadau
Ysgrifennu Adroddiadau i gynnwys argymhellion a fframweithiau manwl ar ganfyddiadau.
Mae Trywydd yn cynnig cyrsiau hyfforddi ar gyfer sefydliadau sector cyhoeddus a phreifat ledled Cymru.
Ymhlith ein gwaith hyfforddi diweddar y mae:
Rhaglen o Sesiynau Ymwybyddiaeth Iaith
Sesiynau Seicoleg Iaith i bobl ifanc
Hyfforddi a Mentora Gweithwyr Ieuenctid ac Athrawon ar Seicoleg Iaith
ar lefel genedlaethol, gan gynnwys creu pecyn adnoddau pwrpasol
Gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol y Drindod Dewi Sant i ddarparu Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Cyfieithu ar y Pryd i ddarpar gyfieithwyr
Hyfforddiant Mewn Swydd Cenedlaethol i athrawon ar Dechnegau Dysgu Dwyieithog
Hyfforddiant ar gyfersefydliadau’r trydydd sector a busnesau bach a chanolig ar gynllunio, datblygu a darparu gwasanaethau dwyieithog i’r cyhoedd yng Nghymru, a hynny ar ran Comisiynydd y Gymraeg
Mae ein tîm yn meddu ar gymhwyster rheoli prosiectau Prince 2, ac mae ein rheolwyr wedi dilyn Rhaglen Rheoli Busnes Lefel 7, sy’n rhoi sylw manwl i gynllunio busnes, cyllid, marchnata a chyfathrebu.
Mae hyn oll yn cynorthwyo ein gwaith Rheoli Prosiectau.
Beth am drafod eich anghenion â ni?
Mae croeso i chi gysylltu â ni - byddem yn falch o glywed gennych.Ffoniwch (01558) 263 133
neu anfonwch neges e-bost i post@trywydd.cymru