Cyfieithu

Mae gan Trywydd enw rhagorol fel un o ddarparwyr gwasanaethau cyfieithu ar y pryd mwyaf blaenllaw Cymru.

Beth yw

Erbyn hyn, mae cynnig gwasanaeth cyfieithu ar y pryd mewn cyfarfodydd cyhoeddus wedi dod yn arfer cyffredin yng Nghymru. Mae’n dangos eich dymuniad i sicrhau cyfle cyfartal ac yn rhoi’r cyfle i bawb siarad yn eu dewis iaith. Mae’n galluogi pawb i ddeall y cyfraniadau sy’n cael eu gwneud, gan arwain at drafodion dwyieithog cwbl naturiol. Rydym yn cynnig gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o'r Gymraeg i'r Saesneg ac o'r Saesneg o'r Gymraeg.

Gweithio


Mae gennym dîm o gyfieithwyr ar y pryd dynamig a phrofiadol ledled Cymru, pob un ohonynt wedi llwyddo ym mhrawf cyfieithu ar y pryd llym Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru. Mae ein rhwydwaith o gyfieithwyr ar y pryd cymeradwy yn sicrhau y gallwn drefnu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd lle bynnag, a phryd bynnag, y bydd eich digwyddiad yn cael ei gynnal.

Mae gennym ein cyflenwad ein hunain o’r offer cyfieithu digidol cludadwy diweddaraf un. Felly, yn ogystal â darparu cyfieithwyr medrus iawn, gallwn roi’r sicrwydd a’r tawelwch meddwl i chi fod yr ochr dechnegol o dan reolaeth dda hefyd.

Beth am ein hystyried ar gyfer:

Digwyddiadau Cyhoeddus
Cynadleddau
Ymgyngoriadau
Cyfarfodydd Bwrdd
Cyfweliadau am Swydd
Priodasau
Angladdau

Gallwn gynnig gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gyfer digwyddiadau o bob math, gan deilwra’r gwasanaeth i’ch anghenion penodol chi. Gallwn fod ar gael ar gyfer gwaith nos, yn ogystal â gwaith ar benwythnosau a gwyliau banc.

Beth am gysylltu â ni i drafod ein gwasanaeth cyfieithu ar y pryd?
Byddem yn falch o glywed gennych.

Ffoniwch (01558) 263 133
neu anfonwch neges e-bost i post@trywydd.cymru